12/08/2026
Wedi cystadlu yn Sioe Môn am y tro cyntaf 'leni a wedi cael dau 1af ⭐️ er mod i ddim yn gwneud bwyd poeth i ddigwyddiadau eto mi oni isho adborth "unbiased" felly mi oedd o'n gyfla gwych!
Am stress a hwyl - neshi ddewis cystadleuaeth ar hap a landio ar tŵr o brofiteroles! Felly wedi cael deufis o bracdisho a dysgu sut i neud choux pastry am y tro cynta! Newchi weld o'r llunia ola' ma'na ddipyn o disasters...
Edrych mlaen i neud cystadleuaeth ar hap eto blwyddyn nesa i gael gweld pa sialens newydd fydd rhaid i mi wynebu!!