Partneriaeth fwyd annibynnol, a gynhelir gan Gyngor Sir Fynwy. English page 👇 https://www.facebook.com/facebook.commonmouthshirefoodpartnership Mae Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy yn gydweithrediad sirol o bobl a sefydliadau o bob cefndir sy’n meddwl bod bwyd yn werth ei gymryd o ddifrif. Gyda’n gilydd, rydym yn gweithio i greu system fwyd ffyniannus, foesegol a chynaliadwy o fewn y sir a thu hwnt. No
d Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy yw:
• cysylltu pobl, prosiectau a phartneriaid sy'n ceisio creu system fwyd leol gynaliadwy
• cymryd camau ar y cyd i lunio'r system fwyd leol
• bod yn llais cyfunol ar gyfer bwyd sy'n llywio polisi yn gadarnhaol ac yn rhannu arfer gorau
Mae hynny’n golygu ein bod yn cynnal prosiectau, yn ceisio ac yn dosbarthu cyllid, yn cysylltu pobl â’i gilydd, ac yn cynghori a chefnogi unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwella ein system fwyd i ledaenu llawenydd a chariad at fwyd da. SIARTER FWYD: Y Sir Fynwy a Garem Ei Gweld
Bwyd Iachus i Bawb
• Bwyd maethlon, blasus sydd yn gyfeillgar i’r blaned ac sydd ar gael i bawb, nid oes ots beth yw eu hincwm
• Pawb yn meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau i dyfu, paratoi coginio a bwyta bwyd da
• Nid oes neb yn dioddef o salwch sydd wedi ei achosi gan ddeiet gwael
Mudiad Bwyd Da
• Mae trigolion Sir Fynwy yn poeni am yr hyn y maent yn bwyta ac yn yfed, a sut y caiff ei baratoi
• Cymunedau yn dod at ei gilydd yn gyson drwy dyfu, paratoi a rhannu bwyd da
• Mae pobl leol yn teimlo eu bod wedi cysylltu gyda’r tir a’i gilydd drwy’r bwyd y maent yn prynu ac yn bwyta
Economi Bwyd Cynaliadwy
• Mae busnesau bwyd a diod sy’n gynaliadwy a’n foesol yn ffynnu drwy’r flwyddyn, gyda chefnogaeth gan drigolion parhaol ac ymwelwyr tymhorol
• Mae bwyd a ffermio yn cael eu hystyried fel llwybrau gyrfaol deniadol, yn cynnig gwaith a chyflogau teg
• Mae Sir Fynwy yn adnabyddus a’n cael ei pharchu am ansawdd a digonedd y cynnyrch
Bwyd i’r Blaned
• Mae ein tir yn cael ei reoli a’i ffermio’n gynaliadwy ac mae bioamrywiaeth yn ffynnu
• Mae pobl yn meddu ar wybodaeth gywrain er mwyn gwneud dewisiadau am fwyd sy’n gyfeillgar i’r blaned
• Mae gwastraff bwyd a phecynnu yn bethau sy’n perthyn i’r gorffennol
Os ydych yn rhannu ein gweledigaeth, Hoffwch a Dilynwch ein tudalen neu ewch ati i gysylltu gyda ni ar e-bost. Gyda'n gilydd byddwn yn adeiladu system fwyd gynaliadwy ar gyfer ein sir a thu hwnt.