26/07/2026
Wel, dyna ni... mae ein cinio Sul olaf yn Sosban Fach Penygroes wedi dod i ben.
Hoffem ddiolch o galon i bawb sydd wedi ein cefnogi wythnos ar Γ΄l wythnos. Boed hynny am ginio Sul, pryd o fwyd dros y penwythnos neu hyd yn oed am sgwrs fach β rydych chi wedi gwneud y daith yma yn un arbennig iawn.
Mae'r gefnogaeth, y geiriau caredig a'r cyfeillgarwch rydym wedi'u derbyn wedi golygu'r byd i ni, ac ni fyddwn byth yn eu hanghofio.
Diolch i bawb fu'n rhan o'n taith, mae wedi bod yn bleser llwyr eich gwasanaethu.
Gyda chariad a diolch o galon,
Pamela Hughes & Gweno Hughes β€οΈ