05/09/2026
Wythnos Caru Cig Oen yw hi! Cyfle i ddathlu’r ffermwyr, y dirwedd a’r bwyd sydd wrth galon cynhyrchu cig oen.
Mae cig oen Cymreig wedi’i fagu yn ein tirweddau godidog ers canrifoedd lawer, gan ffynnu ar y cynhwysion naturiol puraf.
Ynghyd â’r elfennau naturiol hyn, yr arferion ffermio traddodiadol sydd wedi’u trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth sy’n gyfrifol am ennill statws PGI clodfawr i Gig Oen Cymru. Mae’r cynllun hwn yn ceisio gwarchod a hyrwyddo bwydydd arbenigol sy’n unigryw i’w hardaloedd ac sydd â chysylltiad cryf â’u tir.
Yma yn Edwards o Gonwy, rydym yn gweithio gyda ffermwyr yr ydym yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt, sy’n cynnal safonau eithriadol o uchel o ran gofal anifeiliaid a rheoli’r tir, ar draws Dyffryn Conwy, Dyffryn Clwyd ac Ynys Môn. Drwy wneud hynny, mae’r ffermwyr hyn nid yn unig yn gallu cynhyrchu cig o ansawdd uchel, ond hefyd yn helpu i warchod y dirwedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
It’s Love Lamb week! A moment to celebrate the farmers, landscape and food at the heart of the lamb production.
Welsh Lamb has been reared in our stunning landscapes for many centuries, thriving off the purest natural ingredients.
These natural elements, along with traditional farming practices which have been passed down through generations, are what have awarded Welsh Lamb its coveted PGI status. A scheme that aims to preserve and promote speciality foods that are unique to their terrains and strongly connected to their land.
Here at Edwards of Conwy, we work with farmers we know and trust who hold exceptionally high standards in both animal care and land management, across the Conwy Valley, Vale of Clwyd and Isle of Anglesey. By doing so, these farmers are not only able to produce high-quality meat, but also protect the landscape for generations to come.