15/06/2026
Make a Difference Monday 🤗
Here at the Farm, there is one group who make a difference every day, our awesome volunteers. The farm exists because of and for volunteers, and we could never have enough ways to celebrate them! Volunteers Week gave us an excuse to shine a spotlight on these beautiful people and take a break from all the messy farm work for a bit of a party 🤩
Volunteers’ Week 2026 was celebrated with some fun-filled, wholesome activities! From Welly Wanging, indoor games to egg-throwing, as well as certificates and a celebratory meal our volunteers participated in each activity with the utmost enthusiasm and we got to see a different competitive side in many.
The week celebrated the selfless contribution of the volunteers and gave us a chance to show our appreciation for their dedication throughout the year. By treating this farm as their own, they have created a home not only for the plants and animals as well as the whole community 🫶
Our volunteers said:
“It was nice to be celebrated.”
“It brought us joy as well as a wonderful sense of belonging and made us feel appreciated”
“Knowing the farm values us for the hard work we put in feels great, it’s not seen everywhere these days”
It was a pleasure to recognise the impact they have been making on the farm and community while looking back at their incredible year of hard work.
Volunteers’ Week 2026 may have come to an end, but we remain grateful and indebted to them always!
Diolch yn Fawr! 💚
National Lottery Community Fund Glamorgan Regional Partnership
Dydd Llun Gwneud Gwahaniaeth!
Yma ar y Fferm mae un grŵp sy'n gwneud gwahaniaeth bob dydd, ein gwirfoddolwyr anhygoel. Mae'r fferm yn bodoli oherwydd ac ar gyfer gwirfoddolwyr, ac ni allem gael digon o ffyrdd i'w dathlu! Rhoddodd Wythnos y Gwirfoddolwyr esgus inni i dynnu sylw at y bobl hyfryd hyn a chymryd seibiant o'r holl waith fferm am barti .
Dathlwyd Wythnos y Gwirfoddolwyr 2026 gyda rhai gweithgareddau llawn hwyl! O wangio wellis, i daflu wyau, yn ogystal â thystysgrifau a phryd o fwyd, cymerodd ein gwirfoddolwyr ran ym mhob gweithgaredd gyda'r brwdfrydedd a chawsom weld ochr gystadleuol mewn llawer.
Dathlodd yr wythnos gyfraniad anhunanol y gwirfoddolwyr a rhoddodd gyfle inni ddangos ein gwerthfawrogiad am eu hymroddiad drwy gydol y flwyddyn. Drwy drin y fferm hon fel eu fferm eu hunain, maent wedi creu cartref nid yn unig i'r planhigion a'r anifeiliaid ond i'r gymuned gyfan.
Dywedodd ein gwirfoddolwyr:
“Roedd yn braf cael ein dathlu.”
“Daeth â tipyn o hwyl i ni yn ogystal â theimlad o berthyn a gwnaeth i ni deimlo ein bod yn cael ein gwerthfawrogi”
“Mae gwybod bod y fferm yn ein gwerthfawrogi am y gwaith caled rydyn ni'n ei wneud yn teimlo'n wych, nid yw i'w weld ym mhobman y dyddiau hyn”
Roedd yn bleser cydnabod yr effaith maen nhw wedi bod yn ei chael ar y fferm a'r gymuned wrth edrych yn ôl ar eu blwyddyn anhygoel o waith caled.
Efallai bod Wythnos Gwirfoddolwyr 2026 wedi dod i ben, ond rydyn ni'n parhau i fod yn ddiolchgar ac yn ddyledus iddyn nhw bob amser! Diolch yn Fawr!